OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
CAFFAEL TIR, CYMRU
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn galluogi personau sydd â buddiannau penodol mewn categorïau o dir (gan gynnwys tir y mae cynigion cynllunio a chynigion priffyrdd penodol yn effeithio arno) i’w gwneud yn ofynnol i’r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir. Mae’r categorïau o dir wedi eu pennu yn Atodlen 13 i’r Ddeddf.
Un o’r buddiannau mewn tir yng Nghymru sy’n gymwys i’w ddiogelu yw buddiant perchen-feddiannydd hereditament pan na fo gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Ystyr “hereditament” yw hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Mae’r Gorchymyn hwn yn codi’r terfyn gwerth blynyddol o £34,800 i £36,000 o ran Cymru.
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Mae asesiad effaith wedi ei lunio mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
Caffael Tir, Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019
Gwnaed 11 Mehefin 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Mehefin 2019
Yn dod i rym 5 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019 a daw
i rym ar 5 Gorffennaf 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Terfyn gwerth blynyddol
2. £36,000 yw’r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Dirymu
3. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011([3]) wedi ei ddirymu.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2019
([2]) Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.